Cipiwyd y ddelwedd hon o’r bryniau a ffurfiodd o ganlyniad i frigwthiad creigiau oherwydd ardrawiad a ffurfiodd Geudwll 230 cilomedr Galle.
Mae ceunentydd bychain, sydd i’w gweld
yng nghanol y ddelwedd hon, wedi ffurfio ar lethrau’r bryniau ac maent wedi erydu yn ôl i mewn i’r creigwely. Fwy na thebyg fod y ceudwll ei hun biliynau o flynyddoedd oed, ond eto mae’n debygol mai dim ond cannoedd o flynyddoedd yw oed y ceunentydd hyn ac efallai eu bod yn actif heddiw.
Gall y gwynt ddileu’r sianeli bychain yn y ceunentydd hyn yn hawdd dros gyfnodau hir o amser, ac felly rhaid bod y ceunentydd hyn wedi bod yn actif yn ddiweddar.
Cyfieithiad: Helen Mainwaring