Glaniwr InSight ar Fawrth
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Glaniwr InSight ar Fawrth
ESP_058005_1845
Saesneg  

twitter 
Dyma ddelwedd gan HiRISE o laniwr InSight NASA, ynghyd â darnau eraill o galedwedd, ar Fawrth ar ôl iddo lanio’n llwyddiannus ar 26 Tachwedd 2018.

Yn ôl pob golwg mae tu allan tywyll y darian wres (de uchaf) yn wynebu am i lawr, gan ei bod mor lachar (dwys, sy’n adlewyrchiad gloyw yn fwy na thebyg). Aflonyddodd y glaniwr (canol) ar lwch dros gryn bellter gan dywyllu’r arwyneb, fel y gwelwyd o’r blaen yn safleoedd glanio Phoenix a Curiosity. Mae’n debyg mai adlewyrchiad gloyw arall yw’r smotyn llachar sy’n gysylltiedig âr glaniwr, ac mae dau estyniad glasaidd llai o faint sy’n araeau solar, ynghyd âu cysgodion.

Mae’n bosibl bod gan y plisgyn cefn sydd ynghlwm wrth y parasiwt (chwith isaf) adlewyrchiad gloyw arall eto; mae’n debyg bod y llafn i’r de ymhell tu hwnt i’r parasiwt yn llwybr cythraul llwch a fodolai cyn hyn. Mae’r glaniwr yn rhyw 6 metr o led pan gaiff yr araeau solar eu hestyn yn llawn.

Hardware Cutouts at Full Resolution
InSight
plisgyn cefn
darian wres

Cyfieithiad: Rachel Holden

 
Dyddiad caffael
11 Rhagfyr 2018

Amser lleol ar Fawrth
2:02 PM

Lledred


Hydred
136°

Pellter i’r safle targed
279 km

Cydraniad y ddelwedd
28 cm/picsel felly mae gwrthrychau tua 84 cm o led i’w gweld yn y llun

Graddfa delwedd y tafluniad
25 cm/picsel

Tafluniad cartograffigPetryal (ac mae'r Gogledd tuag i fyny)

Ongl allyrru
14°

Ongl y wedd
51°

Ongl yr haul
39°, ac mae’r Haul wedi ei leoli 51° gradd uwchlaw’r gorwel

Hydred yr Haul
304°, Gaeaf y gogledd

JPEG
Du a gwyn:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

Lliw IRB:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

IRB cyfunol:
Tafluniad map

RGB cyfunol:
Tafluniad map

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap

JP2 (LAWRLWYTHO)
Du a gwyn:
Tafluniad map (1111 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map (642 MB)

JP2 (YCHWANEGOL)
Du a gwyn:
Tafluniad map  (606 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (560 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map  (280 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (620 MB)

IRB cyfunol:
Tafluniad map  (368 MB)

RGB cyfunol:
Tafluniad map  (352 MB)

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap  (537 MB)
3D
Tafluniad map (PNG)
JP2 (lawrlwytho)

GYWBODAETH YCHWANEGOL AM Y DDELWEDD
Label du a gwyn
Label du a lliw
Label IRB cyfunol
Label RGB cyfunol
EDR Delweddau

DELWEDDAU
Mae’r holl ddolenni delweddau yn rhai llusgo a gollwng ar gyfer HiView, neu cliciwch i’w lawrlwytho.

POLISI DEFNYDD
Mae’r holl ddelweddau a gynhyrchwyd gan HiRISE ac sydd ar gael ar y wefan hon o fewn y parth cyhoeddus: nid oes unrhyw gyfyngiadau ar eu defnydd gan unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau newyddion neu wyddoniaeth. Gofynnwn am linell o gydnabyddiaeth lle bo’n bosibl:
NASA/JPL-Caltech/UArizona

ÔL-NODYN
Labordy Jet-yriant NASA, adran o Athrofa Technoleg California yn Pasadena, Calif., sy’n rheoli Mars Reconnaissance Orbiter ar ran Cyfarwyddiaeth Cenhadaeth Wyddoniaeth NASA, Washington. Cafodd camera HiRISE ei adeiladu gan Gorfforaeth Awyrofod a Thechnoleg Ball a chaiff ei weithredu gan Brifysgol Arizona.