Mae haenau ysgafn o lwch o liw oren golau sydd wedi’i chwythu ar draws y tywod basalt tywyll i’w gweld ar dwyni tywod rhanbarthau pegwn y gogledd Mawrth. O amgylch ymylon y tywyni mae clytiau o rew sych tymhorol.
Bydd y clytiau hyn yn diflannu yn fuan wrth iddynt sychdarthu yn haul yr haf.
Mae rhai blociau o rew yn weladwy ar waelod cilfach a grewyd wrth i dywod lithro i lawr wyneb y twyn.
Cyfieithiad: Sioned Williams