HiPOD 07 Chwefror 2023
Arth ar Fawth?

Arth ar Fawth?
Mae’r nodwedd hon yn edrych tipyn bach fel wyneb arth. Beth ydy hi mewn gwirionedd?

Mae bryn gyda strwythur dymchwel ar siāp-V (y trwyn), dau geudwll (y llygaid), a phatrwm hollti crwn (y pen). Mae’n bosibl bod y patrwm hollti crwn yn ganlyniad dyddodion yn setlo dros geudwll ardrawiad claddedig. Efallai bod y trwyn yn dwll awyr folcanig neu laid a gallai’r dyddodyn fod yn llifoedd lafa neu laid?

Cyfieithiad: Rachel Holden

rhif: ESP_076769_1380
dyddiad caffael : 12 Rhagfyr 2022
uchder: 251 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_076769_1380
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

twitter  •  tumblr

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.