HiPOD 22 Mawrth 2022
Dilyn Hynt Crwydryn Zhurong

Dilyn Hynt Crwydryn Zhurong
Glaniodd crwydryn Zhurong Tseina ar Fawrth ym Mai 2021. (Roedd yn 14 Mai yn yr Unol Daleithiau, ond 15 Mai yn Tseina.) Dengys y ddelwedd hon o HiRISE, a dynnwyd ar 11 Mawrth 2022, ba mor bell mae’r crwydryn wedi teithio yn y 10 mis ers iddo lanio.

Yn wir, mae’n bosibl olrhain ei union lwybr o’r traciau mae’r olwynion wedi’u gadael ar yr wyneb. Mae wedi teithio tua’r de am ryw 1.5 cilometr (1 filltir yn fras). Mae darn hwn y ddelwedd yn amlygu’r crwydryn a llwybr y crwydryn (gyda’r cyferbyniad wedi’i ddwysáu i ddangos y traciau’n well).

Cyfieithiad: Rachel Holden

rhif: ESP_073225_2055
dyddiad caffael : 11 Mawrth 2022
uchder: 288 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_073225_2055
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.