HiPOD 13 Ebrill 2022
Perseverance ac Ingenuity yng Ngheudwll Jezero

Perseverance ac Ingenuity yng Ngheudwll Jezero
Mae HiRISE yn monitro teithiau presennol a gorffennol cerbydau gofod ar wyneb Mawrth. Mae hyn yn cynnwys crwydryn Perseverance a laniodd ar 18 Chwefror 2021 yng Ngheudwll Jezero.

Mae’r crwydryn 3 metr gan 2.7 metr yn eistedd ar greigwely toredig yr hyn mae gwyddonwyr y daith yn ei alw’n Ffurfiant Máaz, y credir ei fod o darddiad igneaidd (folcanig). Y prif darged gwyddonol yw’r dyddodyn deltaidd a allai fod wedi ffurfio biliynau o flynyddoedd yn ôl o waddodion a gludwyd unwaith gan afon hynafol, ac sydd sawl cilometr i'r gogledd. Mae HiRISE yn debygol o dynnu delweddau o Perseverance eto yn ystod ei daith hir.

Yn ogystal, 200 metr tua’r gorllewin yw hofrennydd Ingenuity sydd wedi cwblhau 23 o hediadau llwyddiannus yn Jezero ers cael ei roi ar waith.

Cyfieithiad: Rachel Holden

rhif: ESP_073068_1985
dyddiad caffael : 26 Chwefror 2022
uchder: 281 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_073068_1985
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

twitter  •  tumblr

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.