Mae’r cribau pedolog hyn ar hyd wal mewnol y ceudwll hwn yn cynnig cliwiau i orffennol toreithiog o iâ. Mae’r cribau crwm, danheddog, a elwir yn farianau, wedi’u cyfansoddi o greigiau a gasglwyd gan y rhewlif wrth iddo symud i lawr y llethr.
Hyd yn oed ar ôl i'r iâ ddiflannu, mae’r marianau rhewlifol yn aros, gan nodi graddfa (neu ben) pellaf y rhewlif. Mae'n bosibl bod y rhigolau llinol cyfochrog ar y wal yn nodi lefelau gorffennol y rhewlif. Er bod rhewlifoedd yn symud yn araf, mae iâ yn ffordd hynod o rymus o addasu wyneb planed.
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_070461_2245dyddiad caffael : 07 Awst 2021
uchder: 304 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_070461_2245
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh
twitter •
tumblr