HiPOD 29 Hydref 2020
Cwymp Eira a Thwyni’r Gogledd

Cwymp Eira a Thwyni’r Gogledd
Bob blwyddyn gwelwn gylchlithriadau newydd ar wynebau llithro twyni ar ledredau gogleddol uchel, a chaiff hen gylchlithriadau eu dileu gan dywod sy’n cael ei chwythu gan y gwynt. Tynnwyd y ddelwedd hon fel rhan o gyd-astudiaeth â Mars Climate Sounder (MCS) MRO, er mwyn pennu a yw graddfa’r cylchlithro a welir gan HiRISE yn cyfateb i'r cwymp eira a welwyd gan MCS.

Mynnwch edrych ar y llun 3D gan ddefnyddio sbectol coch-gwyrdd. Mae’r cylchlithriadau’n edrych yn rhyfedd mewn 3D, am eu bod yn newid bob blwyddyn ac thynnwyd ail ddelwedd y pâr un flwyddyn Fawrth yn ôl.

rhif: ESP_062901_2560
dyddiad caffael : 27 Rhagfyr 2019
uchder: 320 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_062901_2560
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.