HiPOD 10 Ionawr 2022
Creigwely Haenog

Creigwely Haenog
Gwaddodion haenog yw’r allwedd i bos hanes Mawrth. Maent yn dweud wrthym am yr amodau a fodolai adeg dyddodi’r gwaddodion, a sut y newidiant dros amser.

Dengys y ddelwedd hon fesa wedi’i erydu a wnaed o greigwely wedi’i haenu’n rhythmig sydd yn ôl pob golwg yn awgrymu dyddodi cylchol. Mae’r haenau’n cael eu pwysleisio gan ddyddodion tywod tywyll diweddar sydd wedi cronni ar feinciau’r gwaddodion mwy llachar. Ar ben y llwyfandir mae set o haenau iau sy’n ymddangos yn geinach ac yn llai talpiog na’r haenau h?n islaw, gan awgrymu amgylchedd dyddodi gwahanol. Gwelir gwaddodion haenog tebyg mewn ceudyllau cyffiniol yn ne-orllewin Arabia Terra.

Cyfieithiad: Rachel Holden

rhif: ESP_059289_1890
dyddiad caffael : 21 Mawrth 2019
uchder: 275 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_059289_1890
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

twitter  •  tumblr

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.