HiPOD 14 Mai 2019
Lliwiau Mawrth Vallis

Lliwiau Mawrth Vallis
Mae Mawrth Vallis yn llecyn ar Fawrth sydd wedi cyfareddu gwyddonwyr oherwydd y cleiau a’r mwynau hydradol eraill a ganfyddir o orbit.

Yn y ddelwedd hon, mae’n debyg mai tywodydd a cherrig basaltaidd yw’r lliwiau du cyfoethedig, tra bod y lliwiau gwyrdd, melyn a glas yn cyfateb i'r gwahanol fwynau hydradol.

Tynnwyd y ddelwedd benodol hon o leoliad ym Mawrth Vallis sydd â mwyn o’r enw jarosit. Ar y Ddaear mae jarosit yn ffurfio dan amodau gwlyb, asidig, sy’n ocsideiddio. Mae jarosit i'w weld hefyd mewn fan arall ar Fawrth lle glaniodd y crwydryn Opportunity a fforio.

Cyfieithiad: Rachel Holden


rhif: ESP_058749_2060
dyddiad caffael : 07 Chwefror 2019
uchder: 289 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058749_2060
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

twitter  •  tumblr

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.