Mae’r ddelwedd hon yn cipio rhywfaint o amrywiaeth ddaearegol Mawrth. Mae bryniau o diroedd hynafol ar lawr Juventae Chasma, wedi eu hamgylchynu gan waddodion iau, gan gynnwys haenau tywod tywyll a thwyni sy’n fwy na thebyg yn weithredol heddiw.
Mae’r bryniau wedi eu herydu’n fawr gan dirlithriadau, gan ffurfio ceunentydd mewn rhai mannau.
Mae lliwiau amrywiol yn cynrychioli mwynau folcanig sydd heb eu newid (glas a gwyrdd) a mwynau sydd wedi eu newid (lliwiau mwy llachar a chochaidd).
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_058566_1760dyddiad caffael : 23 Ionawr 2019
uchder: 267 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058566_1760
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh