HiPOD 01 Ebrill 2019
Ceunentydd yn Galle

Ceunentydd yn Galle
Cipiwyd y ddelwedd hon o’r bryniau a ffurfiodd o ganlyniad i frigwthiad creigiau oherwydd ardrawiad a ffurfiodd Geudwll 230 cilomedr Galle.

Mae ceunentydd bychain, sydd i’w gweld yng nghanol y ddelwedd hon, wedi ffurfio ar lethrau’r bryniau ac maent wedi erydu yn ôl i mewn i’r creigwely. Fwy na thebyg fod y ceudwll ei hun biliynau o flynyddoedd oed, ond eto mae’n debygol mai dim ond cannoedd o flynyddoedd yw oed y ceunentydd hyn ac efallai eu bod yn actif heddiw.

Gall y gwynt ddileu’r sianeli bychain yn y ceunentydd hyn yn hawdd dros gyfnodau hir o amser, ac felly rhaid bod y ceunentydd hyn wedi bod yn actif yn ddiweddar.

Cyfieithiad: Helen Mainwaring


rhif: ESP_058196_1280
dyddiad caffael : 26 Rhagfyr 2018
uchder: 257 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058196_1280
NASA/JPL-Caltech/UArizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

twitter  •  tumblr

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.