HiPOD 28 Mehefin 2024
Rhigolau Ceudwll Matara

Rhigolau Ceudwll Matara
Bu rhigolau ar dwyni tywod Mawrth, fel y rhain yng Ngheudwll Matara, yn weithgar iawn, gyda llawer o lifoedd yn y ddeng mlynedd diwethaf. Mae'r llifoedd yn digwydd yn nodweddiadol pan fydd rhew tymhorol yn bresennol.

Yma, gwelwn rew mewn dwy rigol ac o'u hamgylch, a fu'n weithgar iawn o'r blaen. (Edrychwch ar yr arsylliad hwn i weld sut oedd y rhigolau hyn yn edrych yn 2010.) Nid oes unrhyw lifoedd newydd eleni hyd yn hyn, ond bydd HiRISE yn dal i chwilio!

Cyfieithiad: Rachel Holden

rhif: ESP_054026_1300Invalid parameter for observation_ID: