HiPOD 02 Awst 2024
Tywodydd Symudol Lobo Vallis

Tywodydd Symudol Lobo Vallis
Mae crychau disglair yn rhychu topograffeg y rhanbarth hwn, wedi eu ffurfio o fewn hinsawdd blaenorol. Mae twyni tywyll a rhesi tywod (a wnaed o dywod basaltig) wedi symud a llenwi ardaloedd is, wedi eu gwthio gan wyntoedd diweddarach o frig tuag at waelod y ddelwedd hon.

Cafodd Lobo Vallis ei enwi ar ôl afon ar Arfordir Ifori.

Cyfieithiad: Rachel Holden


rhif: ESP_022250_2065Invalid parameter for observation_ID: