Mae lledredau canol Mawrth (tua 30 i 50 gradd i'r Gogledd a’r De) yn datgelu llawer o dirffurfiau rhyfedd.
Dyma’r lledren lle mae iâ tir sylweddol wedi ffurfio ac o bosibl yn dal i fod yn bresennol, a lle roedd y tymereddau weithiau’n ddigon uchel yn y gorffennol diweddar i iâ lifo. Mae’r ddelwedd hon yn dangos tirffurfiau lled crwn wedi’u gorchuddio gan bolygonau a’u hamgylchynu gan ffosydd. Mae’n bosibl bod rhyw gyfuniad o ehangu a chrebachu gan yr iâ, sychdarthiad, a llif wedi creu’r tirlun yma.