
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Afonydd HynafolESP_070975_2060Saesneg
Biliynau o flynyddoedd yn ôl, llifodd afon dros yr olygfa hon ym Mawrth Vallis. Yn yr un modd ag ar y Ddaear, gall y gwelyau afonydd hyn lenwi â cherrig sy’n cael eu smentio gyda’i gilydd. Ar ôl i Fawrth ddod yn fan oerach, sychach a’r afon ddiflannu, parhaodd gwely creigiog yr afon.
Yn nelwedd hon HiRISE, gwelwn grib tywyll yn rhigoli dros yr wyneb. Y crib tywyll yw hen wely’r afon. Mae wedi’i ddyrchafu dros ei amgylchoedd nawr am fod yr amgylchoedd meddalach hyn wedi cael eu herydu i ffwrdd, tra bod gwely creigiog yr afon wedi gwrthod hynny. Mae gwyddonwyr yn galw’r cribau hyn yn sianeli gwrthdro ac mae llawer ohonynt yn weladwy yn ardal hon Mawrth.
Cyfieithiad: Rachel Holden