Clogwyni Rhewllyd a Cheudyllau Ardrawiad
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Clogwyni Rhewllyd a Cheudyllau Ardrawiad
ESP_070939_2305
Saesneg  

twitter 
WALLPAPER
800
1024
1152
1280
1440
1600
1920
2048
2560
2736
2880
4500
4K
8K
10K


Rydym wedi dod i ddeall yn y blynyddoedd diwethaf bod gan ryw draean o Fawrth rew ychydig o dan yr wyneb. Mae llawer o geudyllau ardrawiad yn y lledredau canolig yn llawn deunydd llyfn sydd yn fwy na thebyg yn rhew wedi’i orchuddio gan ychydig o ddeunydd. Mae rhan o un o’r ceudyllau hyn i'w gweld yn nelwedd hon HiRISE ac mae ganddo nodwedd ddiddorol tua 250 metr (800 troedfedd) ar draws, ger canol y ddelwedd.

Bellach mae gan beth sy’n edrych petai wedi bod yn geudwll ardrawiad o bosibl ymyl syth gyda choglwyn serth ar ei ochr ddeheuol. Yn ôl pob golwg, mae’r glogwyn hon sy’n wynebu’r gogledd yn datguddio deunydd rhewllyd sy’n debyg i lechweddau eraill sy’n wynebu’r pegwn sy’n dangos rhew claddedig mewn mannau eraill ar y blaned. Mae’r clogwyni hyn yn rhoi golwg i ni o’r rhew claddedig yn y lleoliad hwnnw ac yn gallu helpu i ateb cwestiynau am gyflwr hinsawdd Mawrth adeg ffurfio’r rhew hwn.

Cyfieithiad: Rachel Holden
 
Invalid parameter for observation_ID: