Glaniodd cenhadaeth Tianwen-1 Tseina yn neheubarth Utopia Planitia ar 14 Mai 2021. Cipiodd HiRISE y ddelwedd hon ar 6 Mehefin 2021. Ein dehongliad o’r hyn a welwn yn eglur yma yw’r glaniwr wedi’i amgylchynu gan batrwm ffrwydro, a’r fforiwr ei hun ychydig i’r de ar ôl iddo ddisgyn o’r glaniwr.
Mae’r ddelwedd hon yn dangos bod tir y parth yn nodweddiadol iawn o ddeheubarth Utopia Planitia, gyda rhanbarth llyfn sydd gan fwyaf yn rhydd rhag clogfeini. Mae’r nodweddion crwm llachar yn dirffuriau wedi’u chwythu gan y gwynt.