Creigwely Haenog
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Creigwely Haenog
ESP_059289_1890
Saesneg  

twitter 
WALLPAPER
800
1024
1152
1280
1440
1600
1920
2048
2560
2736
2880
4500
4K
8K
10K


Gwaddodion haenog yw’r allwedd i bos hanes Mawrth. Maent yn dweud wrthym am yr amodau a fodolai adeg dyddodi’r gwaddodion, a sut y newidiant dros amser.

Dengys y ddelwedd hon fesa wedi’i erydu a wnaed o greigwely wedi’i haenu’n rhythmig sydd yn ôl pob golwg yn awgrymu dyddodi cylchol. Mae’r haenau’n cael eu pwysleisio gan ddyddodion tywod tywyll diweddar sydd wedi cronni ar feinciau’r gwaddodion mwy llachar. Ar ben y llwyfandir mae set o haenau iau sy’n ymddangos yn geinach ac yn llai talpiog na’r haenau hŷn islaw, gan awgrymu amgylchedd dyddodi gwahanol. Gwelir gwaddodion haenog tebyg mewn ceudyllau cyffiniol yn ne-orllewin Arabia Terra.

Cyfieithiad: Rachel Holden
 
Invalid parameter for observation_ID: