Y Bryniau yn Juventae Chasma
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Y Bryniau yn Juventae Chasma
ESP_058566_1760
Saesneg  

twitter 
WALLPAPER
800
1024
1152
1280
1440
1600
1920
2048
2560
2736
2880
4500
4K
8K
10K


Mae’r ddelwedd hon yn cipio rhywfaint o amrywiaeth ddaearegol Mawrth. Mae bryniau o diroedd hynafol ar lawr Juventae Chasma, wedi eu hamgylchynu gan waddodion iau, gan gynnwys haenau tywod tywyll a thwyni sy’n fwy na thebyg yn weithredol heddiw.

Mae’r bryniau wedi eu herydu’n fawr gan dirlithriadau, gan ffurfio ceunentydd mewn rhai mannau. Mae lliwiau amrywiol yn cynrychioli mwynau folcanig sydd heb eu newid (glas a gwyrdd) a mwynau sydd wedi eu newid (lliwiau mwy llachar a chochaidd).

Cyfieithiad: Rachel Holden
 
Dyddiad caffael
23 Ionawr 2019

Amser lleol ar Fawrth
1:59 PM

Lledred
-4°

Hydred
299°

Pellter i’r safle targed
269 km

Cydraniad y ddelwedd
54 cm/picsel felly mae gwrthrychau tua 161 cm o led i’w gweld yn y llun

Graddfa delwedd y tafluniad
50 cm/picsel

Tafluniad cartograffigPetryal (ac mae'r Gogledd tuag i fyny)

Ongl allyrru


Ongl y wedd
36°

Ongl yr haul
31°, ac mae’r Haul wedi ei leoli 59° gradd uwchlaw’r gorwel

Hydred yr Haul
329°, Gaeaf y gogledd

JPEG
Du a gwyn:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

Lliw IRB:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

IRB cyfunol:
Tafluniad map

RGB cyfunol:
Tafluniad map

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap

JP2 (LAWRLWYTHO)
Du a gwyn:
Tafluniad map (212 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map (108 MB)

JP2 (YCHWANEGOL)
Du a gwyn:
Tafluniad map  (90 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (128 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map  (37 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (127 MB)

IRB cyfunol:
Tafluniad map  (239 MB)

RGB cyfunol:
Tafluniad map  (216 MB)

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap  (116 MB)
GYWBODAETH YCHWANEGOL AM Y DDELWEDD
Label du a gwyn
Label du a lliw
Label IRB cyfunol
Label RGB cyfunol
EDR Delweddau

DELWEDDAU
Mae’r holl ddolenni delweddau yn rhai llusgo a gollwng ar gyfer HiView, neu cliciwch i’w lawrlwytho.

POLISI DEFNYDD
Mae’r holl ddelweddau a gynhyrchwyd gan HiRISE ac sydd ar gael ar y wefan hon o fewn y parth cyhoeddus: nid oes unrhyw gyfyngiadau ar eu defnydd gan unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau newyddion neu wyddoniaeth. Gofynnwn am linell o gydnabyddiaeth lle bo’n bosibl:
NASA/JPL-Caltech/UArizona

ÔL-NODYN
Labordy Jet-yriant NASA, adran o Athrofa Technoleg California yn Pasadena, Calif., sy’n rheoli Mars Reconnaissance Orbiter ar ran Cyfarwyddiaeth Cenhadaeth Wyddoniaeth NASA, Washington. Cafodd camera HiRISE ei adeiladu gan Gorfforaeth Awyrofod a Thechnoleg Ball a chaiff ei weithredu gan Brifysgol Arizona.